Eisteddfod Genedlaethol 2017 supported by Dafydd Hardy

News at Dafydd Hardy | 20/06/2017


Fel cwmni sy’n hyrwyddo ac yn dathlu iaith, diwylliant, busnesau, lleoedd a phobl Cymru – mae’r Eisteddfod yn agos at galon Dafydd Hardy. Mae’r wyl, sy’n rhoi cyfle i ni ddathlu ein Cymreictod drwy gerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth, celfyddydau gweledol a llawer mwy, yn dod i Ynys Môn mis nesaf. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176, a heblaw am 1914 a 1940, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei chynnal yn flynyddol yn y de a’r gogledd bob yn ail.
 
Mae Dafydd Hardy yn falch o noddi cystadleuaeth Dysgwr Y Flwyddyn eleni. Mae’n un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod, ac yn gyfle i Gymru gymeradwyo cyfraniad ac ymroddiad y rheiny sy’n dysgu’r iaith, dathlu eu llwyddiant ac ysbrydoli eraill i ddysgu’r iaith yn y dyfodol. 
 
Nid yn unig yr ydym yn noddi’r gystadleuaeth, rydym hefyd yn cefnogi’r wyl drwy staffio’r ddesg groeso. Mae 70% o dîm Dafydd Hardy yn rhugl yn Gymraeg, gyda nifer o ddysgwyr yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau ymhellach. Bydd Dafydd Hardy ei hun yn cynorthwyo ar y Ddesg Groeso, ac yn cynnal ocsiwn i hel arian i elusen Achub Y Plant ar Ddydd Mercher 9fed Awst am 2:30 yn Y Stiwdio.
 
Yn olaf, byddwn yn cefnogi Bethan Elin Owen o’n swyddfa yng Nghaergybi . Mae Bethan wedi cystadlu mewn nifer o Eisteddfodau ac mae hi’n gobeithio dod ar wobr gyntaf adref flwyddyn yma. Rhwng perfformio ar y llwyfan, mi fydd hi’n helpu allan ar y Ddesg Groeso felly plîs dewch fewn i ddangos eich cefnogaeth.
Os mai hwn yw eich ymweliad cyntaf i faes yr Eisteddfod, mae’n achlysu’r wych i drochi eich hun ym mhob agwedd o ddiwylliant Cymru. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gallu mynychu, bydd S4C yn darlledu yn fyw o’r wyl pob diwrnod. 

 
 

 
As a company that promotes and celebrates Welsh language, culture, businesses, places and people - the Eisteddfod has always had a found place in Dafydd Hardy’s heart. The festival which celebrates Welsh language and culture with various competitions in musical performance, dance, literary and more, is coming to Anglesey next month. The event can be traced back to 1176 and been held every year since 1861, with the exception of 1914 due to the First World War. 
 
Dafydd Hardy are sponsoring the “Welsh Learner of the Year” award. The award is one of the Eisteddfod’s main competitions, and a chance to celebrate the achievements and contribution of Welsh learners to the language and our communities. Encouraging people to learn and use their Welsh, this competition is a chance to celebrate success and inspire others to learn the language in the future.
 
Not only are we sponsoring an award, but we’re also supporting the event by staffing the Welcome desk. Over 70% of the Dafydd Hardy team are fluent Welsh speakers, with a number of learners eager to develop their skills further. Dafydd Hardy himself will also be helping out on the Welcome desk, and conducting a charity auction for Save the Children on Wednesday 9th August at 2:30 in The Studio.
 
Finally, we’ll be cheering on one of the contenders. Our very own Bethan Elin Owen from the Holyhead team. Bethan has competed in many Eisteddfod’s and she hopes to be taking home first prize this year. In between performing on the big stage, she’ll be helping on the Welcome desk so please come and show your support.
 
If you’ve never been to the Eisteddfod it’s a great event to visit and immerse yourself in everything Welsh culture and language has to offer. Don’t be worried if you’re not a Welsh speaker. The festival welcomes those wanting to learn, and where better to start your Welsh language adventure than at the festival bursting with dragons. If you’re not able to make it to the beautiful Isle of Anglesey then don’t worry, S4C will be live every day from the festival.