Offers in the region of
£240,000 Having knowledge of the purchase price allows you to calculate the overall expense incurred in acquiring the property. Read our glossary page

3 bedroom semi-detached house

Garneddwen, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57
1 Bathrooms
3 Bedrooms
3 Receptions
Band: D

Arrange a viewing with our Bangor, Gwynedd branch

About this property

  • Ty Par Blaen Dwbl
  • Tu Mewn Deniadol, Eang Wedi ei Foderneiddio
  • 3 Ystafell Wely, Ystafell Gawod a Thoiled Ychwanegol
  • Ystafell Fyw Gyda Stof Llosgi Coed
  • Ystafell Fwyta, Ystafell Ardd ac Stydi/Swyddfa
  • Gwres Canolog Nwy a Gwydr Dwbl uPVC
  • Gardd Wedi'i Thirlunio Hael sy'n Ffinio a'r Afon
  • Parcio Oddi ar y Ffordd a Garej Defnyddiol Ynghlwm
  • Golygfeydd o Fynyddoedd Eryri o'r Ardd
  • Cyfleus ar Gyfer Cyfleusterau'r Pentref ac Ysgolion

Council Tax A fee submitted to your local authority to cover expenses related to local amenities such as schools, libraries, and waste management. The payment amount is determined based on the property's value. Read our glossary page :  

D

Tenure Explains the various forms of property ownership, including freehold, leasehold, and commonhold, and how they determine your rights and responsibilities as a property owner. Read our glossary page :  

Freehold
Cartref gwych sy'n bendant yn addas i deulu , gyda pharcio oddi ar y ffordd a garej ddefnyddiol. Perffaith ar gyfer cyfleusterau'r pentref lleol.
Ty par, blaen dwbl, hynod ddeniadol, wedi'i gyflwyno'n dda ac wedi'i foderneiddio'n chwaethus ym mhentref Bethesda, sydd o fewn pellter cerdded i gyfleusterau’r pentref ac ysgolion tra dim ond pellter byr o Barc Cenedlaethol Eryri a thua 3 milltir o’r A55. Yn rhan o’r eiddo mae gardd hael wedi'i thirlunio i'r cefn, sy'n ffinio ag Afon Ffrydlas. Mae’n cynnig golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri ac yn darparu lle hyfryd i dreulio amser yn yr awyr agored yn ystod y misoedd cynhesaf. Mae'r tu mewn yn cynnig ystafell fyw eang a chartrefol gyda stôf losgi coed a lloriau derw ac mae ardal fwyta bwrpasol oddi ar y gegin, sydd ar y cyd yn mwynhau golau o’r ddwy ochr. I'r cefn mae ystafell ardd, toiled defnyddiol a stydi/swyddfa sy'n ychwanegu hyblygrwydd i'r llety. Mae 3 ystafell wely ar y llawr cyntaf ac ystafell gawod gyfoes a thrawiadol wedi'i gosod yn ddiweddar. Yn allanol, i'r blaen mae gardd gaeëdig gyda llechi a llu o blanhigion a llwyni i'r ffin ynghyd â llwybr trawiadol o lechi i'r drws ffrynt, sy'n cael ei efelychu ar y dreif i'r ochr sy'n cynnig parcio oddi ar y ffordd. Mae gan y garej bwer / golau, uned sinc a phlymio ar gyfer peiriant golchi. Mae'r brif ardd i'r cefn ar sawl lefel, patio palmant eang wrth y ty gyda grisiau yn arwain i fyny at lawnt uchel ac ardal eistedd pellach. Mae'r ardd gyfan yn cynnwys cyfoeth o flodau, coed a llwyni a choed ffrwythau meddal. Tu hwnt i'r lawnt mae adeilad allanol o gerrig ac ardal arall i eistedd / bwyta, a thu hwnt i hynny llain lysiau, rhedfa ieir a sied ardd ddefnyddiol. Mae'r eiddo yn cynnwys ffenestri a gwydr dwbl (uPVC modern i'r drychiad blaen) a gwres canolog nwy. Gyda digon o le a photensial mawr i ymestyn, yn amodol ar ganiatâd, byddem yn argymell yn gryf eich bod yn archebu apwyntiad i weld y ty yn fuan i werthfawrogi’r cyfle gwych yma.

Porth


Ystafell Fyw 5.75m x 4.24m
Dimensiynau mwyaf.

Cegin 2.84m x 2.32m


Ystafell Fwyta 2.78m x 2.6m


Ystafell Ardd 2.01m x 4.06m


Stydi/Swyddfa 3.87m x 3.06m
Dimensiynau mwyaf.

Neuadd Fewnol


Toiled


Glanfa


Ystafell Wely 1 3.6m x 3.69m
Dimensiynau mwyaf.

Ystafell Wely 2 3.61m x 3.18m
Dimensiynau mwyaf.

Ystafell Wely 3 2.09m x 2.52m


Ystafell Gawod 1.97m x 2.64m


Garej 5.27m x 2.48m
Dimensiynau mwyaf.

Gwasanaethau
Rydym wedi cael gwybod gan y gwerthwr fod yr eiddo hwn yn elwa o brif gyflenwad d?r, nwy, trydan a draenio. Mae gwiriwr Ofcom yn awgrymu bod band ‘broadband’/ffibr ar gael, ac mae signal ffôn symudol awyr agored yn debygol.

Gwresogi
Gwres Canolog Nwy. Nid yw'r asiant wedi profi unrhyw wasanaethau, offer na system gwres canolog (os o gwbl).

Deiliadaeth
Rydym wedi cael gwybod bod y ddeiliadaeth yn rhydd-ddaliadol gyda meddiant gwag ar ôl cwblhau'r gwerthiant. Dylai cyfreithwyr y gwerthwr gadarnhau'r teitl.

Band Treth Y Cyngor
Mae'r eiddo yn fand treth y cyngor D.

Ymwadiad
Mae Dafydd Hardy Estate Agents Limited, drostynt eu hunain a'r gwerthwr, yn rhoi rhybudd bod: (1) y manylion hyn yn ffurfio unrhyw ran o gynnig na chontract. (2) Gwneir pob datganiad heb gyfrifoldeb ar ran yr asiant na'r gwerthwr. (3) Ni ddylid dibynnu ar unrhyw ddatganiad fel cynrychiolaeth o ffaith. (4) Rhaid i unrhyw brynwr arfaethedig fodloni ei hun trwy archwiliad neu fel arall ynghylch cywirdeb pob datganiad. (5) Nid oes gan y gwerthwr na'r asiant, nac unrhyw berson yn eu cyflogaeth, yr awdurdod i wneud na rhoi unrhyw gynrychiolaeth na gwarant mewn perthynas â'r eiddo hwn. (6) Er bod cywirdeb cynllun llawr wedi'i fwriadu, mae'r mesuriadau'n fras ac ni chymerir unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall neu hepgoriad. At ddibenion darluniadol yn unig y mae cynlluniau. (7) Nid yw gwasanaethau ac offer wedi'u profi ac ni roddir unrhyw warant ynghylch eu gweithrediad. (8) Mae'r holl gyfryngau, gan gynnwys ffotograffiaeth a fideo, yn parhau i fod yn eiddo i'r asiant ac ni ddylid eu hailddosbarthu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Cynlluniau llawr wedi'u gwneud gyda Metropix ©2026
download brochure

Floorplan

Map

Train stations

Train station Bangor (Gwynedd)  (4.5 miles)
Train station Llanfairfechan  (6.2 miles)

EPC

EPC chart

Mortgage calculator

Yield calculator

Stamp duty calculator

About Us

Dafydd Hardy Estate Agents and Chartered Surveyors are an employee-owned, independent business with 5 offices covering Gwynedd, Anglesey, and Conwy. Having won numerous prestigious awards, the company was founded by Dafydd Hardy and Richard Thomas (both RICS Chartered Surveyors) in 1992. Today, it is a trusted and successful enterprise in North Wales, celebrated for its expertise and extensive experience in residential sales, lettings, surveys, and commercial property matters.

Services We Offer
About Us
× Share this page:

Tenant Info for Garneddwen, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57